Cartref > Newyddion > Neuadd Henllys 18/06/26
Cawsom gyngerdd gwych yn Neuadd Henllys ar y 18fed o Fehefin, yn canu i ystafell lawn o Westeion HPB a oedd yn werthfawrogol iawn drwy’r nos.
Iwan oedd yn arwain gyda Elis yn cyfeilio ar y biano, a'r unawdydd gwadd oedd Elin Mai Williams. Y cyflwynydd ar y noson oedd Aled Buckley o’r adran Baritôn.
Fe daeth Dewi Peilot â 3 o beilotiaid benywaidd o RAF Valley ar y noson, 2 o Dde Affrica a 1 o Wlad Belg. Roedd yn braf gallu canu “African Prayer” o’u blaen a hefyd egluro’r cysylltiadau rhwng Borthaethwy a Gwlad Belg yn mynd yn ôl i’r Rhyfel Byd Cyntaf sydd yn cael eu crybwyll yn ngeiriau Llion Jones yn ein cân unigryw ein hunain “Hon Yw’r Gân”.
Yn ogystal â’r cyngerdd, cafwyd gyngerdd “anffurfiol” arall yn y Bull ym Miwmares wedyn i gynulleidfa hollol wahanol!!!