Cyfeilydd y côr ers 2023 yw Elis Massarelli-Hughes. Daw Elis o bentref Carmel yn Nyffryn Nantlle ac ar hyn o bryd mae’n astudio Cymraeg a cherddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor. Mae galw mawr ar Elis fel cyfeilydd mewn eisteddfodau ac hefyd fel unawdydd ar y piano a’r organ mewn cyngherddau. Mae Elis wedi chwarae’r organ mewn nifer o leoliadau yn cynnwys Cadeirlan Lerpwl, Neuadd y Brangwyn ac Eglwys Bresbyteraidd y 5th Avenue yn Efrog Newydd.