Cartref > Newyddion > Sant Ioan, Llandudno, 29/05/25

Cawsom cyngerdd gwych yn Eglwys St Johns yn Llandudno ar y 29ain o Fai.
Roedd y gynulleidfa'n amrywiol iawn o wahanol genedlaethau, o Sweden i'r UDA ac ychydig o'r DU hefyd, ac yn ôl y gymeradwyaeth a gawsom ni a'n unawdwyr trwy'r noson, roedd yn ddiogel dweud eu bod wedi mwynhau'r cyngerdd yn fawr iawn.
Dafydd Picton Jones oedd ein cyflwynydd ar y noson, a roedd ein Cyfarwyddwr Cerdd Iwan Wyn Williams yn ôl i'n arwain gyda Elis yn cyfeilio ar y biano.
Ynghyd â pherfformiad y côr, roedd y gynulleidfa wedi cael ei trîn i berfformiadau ein unawdwyr gwych, sef Gwen Elin ag Elis ar yr Organ Eglwys.
Cyngerdd llwyddiannus arall, ac yna i'r Links am frechdanau haeddiannol (ac ambell ddiod!!!).