Cartref > Newyddion > Penblwydd Pont Borth 24/04/26
Ar Nos Wener y 24ain o Ebrill cymerodd Hogia'r Ddwylan ran yn seremoni wobrwyo cystadleuaeth "Pen-blwydd Pont Y Borth" wedi eu drefnu gan Llys a Gorsedd Eisteddfod Môn.
Cafodd y seremoni ei chynnal yn Egwlys y Santes Fair ym Mhorthaethwy yn lle Canolfan YThomas Telford am fod na fwy o fobl na'r disgwyl eisiau mynd.
Fe roedd o'n bleser pûr medru canu ein cân unigryw "Hon yw'r Gân" sydd yn seiliedig ar darddiad y Côr ym Mhorthaethwy yn 1966 a'r cysylltiad cryf i Bont Y Borth, a beth oedd yn well roed awdur geiriau y gân Dr Llion Jones yn y gynulleidaf yn gwrando ar ei eiriau hyfryd am y tro cyntaf.