Cartref > Newyddion > Neuadd Henllys 5/12/24

Cafwyd cyngerdd llwyddiannus iawn yn Neuadd Henllys, Biwmares ar y 5ed o Ragfyr, 2024 yn canu i holl aelodau HPB.
Yn ôl yr arfer roedd yr ystafell yn llawn a dim sedd sbâr i’w chael, ac roedd y gynulleidfa’n werthfawrogol iawn ac yn cael eu canmol yn gynnes drwy’r nos.
Iwan Wyn Williams ein cyfarwyddwr cerdd oedd yn arwain y côr, cyflwynwyd y cyngerdd gan Aled Buckley o’n hadran Bariton a’n hunawdydd ar y noson oedd ein cyfeilydd ifanc dawnus ni ein hunain Elis Massarelli Hughes a ddiddanodd y gynulleidfa gyda dwy medli piano wedi’u trefnu gan ei hun ac a oedd hefyd â thema Nadoligaidd.