Cartref > Newyddion > Llong bleser,Caergybi 17/05/25

Ar ddydd Sadwrn, yr 17eg o Fai, cafodd y côr y cyfle i ganu ar un o'r llongau bleser mawr ym mhorthladd yn Caergybi.. Roedd yn brofiad gwych er cymerodd amser maith i ni fynd ar y llong gan fod mesurau diogelwch yn eu lle, sydd yn dda i'w gweld.
Dr Endaf oedd ein Cyfarwyddwr Cerdd ar gyfer y cyngerdd gan fod Iwan yn absennol oherwydd dyletswyddau tadol, fel tad newydd yn unwaith eto (a llongyfarchiadau mawr iddo), ag Owain Parry (wyr JP) oedd ein cyfeilydd ar y biano ar gyfer y prynhawn. I wneud hi'n weithgaredd teuluol go iawn, ein unawdydd gwadd ar gyfer y cyngerdd oedd merch Dr Endaf, Glesni Ieuan, a wnaeth ei debut ar ein cyfer a chynhaliodd berfformiad hardd aeth i lawr yn dda iawn gyda'r gynulledfa.
Dewi oedd ein cyflwynydd ar gyfer y prynhawn a chadw'r gynulleidfa wedi eu diddanu a hapus iawn, a cyflwynodd Emlyn Thomas gyflwyniad unigryw i "gweddi Eli Jenkins" fel bob amser.
.Mae'n saff i ddweud bod y gynulleidfa (yn bennaf Americanaidd) a'r trefnwyr yn hapus iawn â'n perfformiad gan fod y adborth brwdfrydig a dderbynwyd ar ol y gungerdd yn Ffantastig.
Ar y cyfan, cyngerdd llwyddiannus iawn.
Manylion i ddilyn