Crys a tei i'r hogia yn Eglwys Y Santes Fair ym Metws-y-Coed ar noson gynnes iawn ym mis Gorffennaf.
Roedd y cyngerdd yn llwyddiant arall, yn canu i eglwys lawn ac yna ymlaen i'r Glanaber am rywfaint o luniaeth!!
Iwan oedd yn arwain gyda Elis yn cyfeilio ar yr organ a'r piano a Dafydd Picton oedd yn cyflwyno ar y noson.
Cafodd y gynulleidfa eu diddanu gan ein cyfeilydd talentog Elis gyda unawdau ar y piano a'r organ.