Cartref > Newyddion > Digwyddiadau > CYMRU V SELAND NEWYDD 22/11/25
Mae'r côr wedi cael ei dewis, a byddent yn canu ar y cae yn Stadiwm Y Principality yng Nghaerdydd ar y 22ain o Dachwedd cyn i dîm Rygbi Cymru herio'r Crysau Duon.
Mae hyn yn anrhydedd mawr i'r côr ac er ein bod ni wedi bod i Gaerdydd i ganu mewn gemau rhyngwladol o'r blaen, dyma'r tro cyntaf mewn 20 mlynedd y byddwn ni'n canu cyn gêm Cymru yn erbyn Seland Newydd. Mewn gwirionedd, y gêm yn erbyn Seland Newydd yn 2005 oedd y tro cyntaf i Hogia'r Ddwylan ganu ar y cae cyn gêm rhyngwladol fawr.
Bydd hwn yn brofiad gwych i bawb, ac mae o'n reswm enfawr arall i fod yn gysylltiedig â Chôr Meibion.
Mae'r gic gyntaf am 3:10pm ar ôl yr holl ganu gwych.