Cartref > Newyddion > Digwyddiadau > Can newydd sbon
Fe wnaeth y côr y penderfyniad ddiwedd y llynedd i gomisiynu cân newydd sbon a phwy orau i gysylltu â nhw na Robat Arwyn, un o gyfansoddwyr cerddorol gorau Cymru. Yn wreiddiol o Ddyffryn Nantlle ym Mharc Cenedlaethol Eryri ond bellach yn byw yn Rhuthun, mae o'n gyfansoddwr caneuon o fri ac mae ei gyfansoddiadau nodedig yn cynnwys "Anfonaf Angel" a "Benedictus".
Y gân sy'n deillio o hynny yw "Hon yw'r gân" ac yn ôl y disgwyl mae'r gerddoriaeth yn fendigedig a bachog. Ysgrifenwyd y geiriau Cymraeg i'r gân gan y prifardd Dr Llion Jones ac maent wedi'u seilio o, ac yn dod a tharddiad y côr ym Mhorthaethwy yn fyw ac yn adlewyrchu'r arwyddair Lladin "Pontem Facimus Carmine" a welir ar fathodyn y côr sy'n golygu adeiladu pont trwy gân.
Mae Hon yw'r Gân yn gân arbennig nad oes gennym ni amheuaeth y bydd yn repertoire y côr ac a fydd yn plesio cynulleidfaoedd am flynyddoedd i ddod.