Cartref > Newyddion > Capel Ebeneser, Mawrth 27ain

Ar Nos Wener y 27ain o Fawrth, cymerodd Hogia'r Ddwylan ran mewn cyngerdd elusennol a drefnwyd gan Gapel Ebeneser, Llanfairpwll i godi arian tuag at achosion lleol haeddiannol.
O safbwynt y côr, roedd yn wych gweld y capel mor llawn ac ar y noson cafodd y gynulleidfa eu diddanu gan ganeuon gan y côr yn ogystal ag ein cyfeilydd dawnus Elis Massarelli yn chwarae unawdau gwych ar yr organ.
Ein cyfarwyddwr cerdd Iwan oedd yn arwain ar y noson gyda Elis yn cyfeilio ar y biano, a'r cyflwynydd oedd Dafydd Picton Jones o’n adran Bas.
Mae'n ddiogel dweud o'r adborth a gafwyd yn dilyn y digwyddiad gan y gynulleidfa fod pawb wedi mwynhau'r cyngerdd yn fawr a bod dros £300 wedi cael ei godi a byddai pob ceiniog yn cael ei ddosbarthu i achosion lleol haeddiannol.