Cartref > Galeri > Taith Caerdydd, Tachwedd 2025
Fe drafaeliodd y Côr lawr i Gaerdydd i ganu ar y cae cyn gêm rygbi rhyngwladol Cymru yn erbyn Seland Newydd ar y 22ain o Dachwedd, 2025.
Mae o’n 120 o flynyddoedd yn ôl y canodd Cymru Hen Wlad Fy Nhadau cyn gêm ryngwladol rygbi'r undeb am y tro cyntaf. Ar y diwrnod hwnnw fe wnaethom nhw guro yr All Blacks, ond yn anffodus roedd o ddim i fod y tro yma er ei bod yn berfformiad llawer gwell na’r disgwyl.
Cynhaliwyd y digwyddiad hwn gyda anthem acapela bythgofiadwy a oedd yn swnio’n anhygoel gyda’r pedwar côr, ynghyd ag yn agos i 70,000 o leisiau arall yn canu Hen Wlad Fy Nhadau, a gadawodd wylwyr teledu o bob cwr o’r byd yn synnu’n llwyr gan y foment wych hon.
Dyma chydig o luniau o'r profiad anhygoel yma.